Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 8 Mawrth 2018
Amser:
09.08 -
13.41
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4535
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Michelle Brown AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Darren Millar AC Julie Morgan AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Betsan O’Connor, Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) Cressy Morgan, Ein Rhianbarth ar Waith Debbie Lewis, Consortiwm Canolbarth y De Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Andrew Williams, Consortiwm Canolbarth y De Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Sharon Williams, GwE Paul Matthews-Jones, GwE Ed Pryce, Gwasanaeth Cyflawni Addysg I Dde Ddwyrain Cymru Kath Bevan, Gwasanaeth Cyflawni Addysg I Dde Ddwyrain Cymru Rob Williams, NAHT Damon McGarvie, National Association of Head Teachers Tim Pratt, ASCL Ravi Pawar, Ysgol Gyfun y Coed Duon cur, NUT Cymru Hannah O'Neill, Cymdeithas Athrawon a Darlithwyr Rex Phillips, NASUWT Elaine Edwards, UCAC Sir Alasdair MacDonald, Llywodraeth Cymru Mel Ainscow, Manchester University |
Staff y Pwyllgor: |
Sian Thomas (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David; nid
oedd dirprwy yn bresennol.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Consortia Rhanbarthol.
2.2 ERW a Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De i roi enghreifftiau o sefyllfaoedd lle'r oedd mewnbwn cynghorwyr her wedi newid y modd yr oedd ysgol yn defnyddio ei dyraniad grant amddifadedd disgyblion, neu sefyllfa lle bu'n rhaid i'r consortia ystyried adhawlio dyraniad grant amddifadedd disgyblion a oedd wedi cael ei wario mewn modd amhriodol.
2.3 ERW i ddarparu nodyn ynghylch cynnwys un o'r cwestiynau a ofynnwyd ar bapur Saesneg mewn perthynas â manteision ac anfanteision masnach deg, a'r effaith y cafodd y mater hwn ar ganlyniadau.
2.4 ERW a Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De i ddarparu ymatebion ysgrifenedig i'r cwestiynau nas gofynnwyd.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Consortia Rhanbarthol.
3.2 Y Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg ar gyfer De Ddwyrain Cymru i ddarparu dadansoddiad o'r data cyrhaeddiad Gwyddoniaeth sy'n gysylltiedig â chymwysterau galwedigaethol a TGAU.
4.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan undebau athrawon.
5.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan undebau athrawon.
6.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Syr Alasdair MacDonald a'r Athro Mel
Ainscow.
7.1 Cafodd y papurau eu nodi.
Gwybodaeth ychwanegol gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn dilyn y cyfarfod ar 18 Ionawr
8.1
Derbyniwyd y cynnig.
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiynau tystiolaeth.